Mae achubwyr wrthi’n chwilio am hyd at 300 o bobl sy’n dal ar goll mewn mwd ar ôl i argae dorri yn Brasil.

Mae o leiaf naw o bobl wedi marw yn y trychineb mewn mwynglawdd yn nhalaith Minas Gerais a phylu mae’r gobaith am weddill y rhai sydd ar goll.

Roedd gweithwyr y mwynglawdd yn bwyta cinio brynhawn ddoe pan ddymchwelodd yr argae, gan ryddhau môr o fwd cochlyd, a gladdodd amryw o adeiladau’r cwmni.

Yn fuan wedyn, roedd rhannau o’r dref gyfagos, Brumadinho, o dan y mwd ac fe fu’n rhaid i lawer ffoi o’u cartrefi.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni mwyngloddio, Vale, nad oedden nhw’n gwybod beth achosodd y trychineb.

Dywedodd arlywydd newydd y wlad, Jair Bolsonaro, y bydd yn ymweld â’r ardal yn ddiweddarach. Roedd wedi addo addo lleihau rheoliadau mwyngloddio yn ei ymgyrch etholiadol ddiwedd y llynedd.