Mae’r diwrnod poethaf erioed yn unrhyw un o ddinasoedd Awstralia wedi ei gofnodi yn Adelaide, gyda’r tymheredd yn cyrraedd uchafbwynt o 46.6C (115.9F).

Mae’n dymor yr haf yn y wlad ar hyn o bryd, ac mae arbenigwyr yn darogan y mis Ionawr poethaf erioed.

Y tro diwethaf i Adelaide, sy’n gartref i 1.3m o bobol, weld diwrnod poeth o’r fath oedd ar Ionawr 12, 1939, pan gofnodwyd tymheredd o 46.1C (115F).

Ddeng mlynedd yn ôl, fe welodd Melbourne, ail ddinas fwyaf Awstralia, y tymheredd yn codi i 46.4C (115.5F).

Cafodd haf y llynedd ei gofnodi yn un o’r tri poethaf ar record hefyd.