Mae palas brenhinol Gwlad Thai wedi cyhoeddi gorchymyn sy’n caniatáu cynnal yr etholiad cyffredinol cyntaf yn y wlad ers i’r fyddin gymryd rheolaeth yn 2014.

Mae’r gorchymyn a gafodd ei gyhoeddi ym mhapur y Royal Gazette yn rhoi mewn grym gyfreithiau etholiadol a gafodd eu drafftio gan lywodraeth filwrol Gwlad Thai, sydd wedi bod â gafael dynn ar weithgareddau gwleidyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae arweinwyr y wlad wedi torri’r addewid o gynnal etholiad sawl tro ers 2014, pan gafodd y llywodraeth ddemocrataidd, sy’n rhagflaenu’r un bresennol, ei dymchwel.

Bu’n rhaid gohirio’r etholiad a oedd i’w chynnal ar Chwefror 24 eleni oherwydd na chafodd y gorchymyn diweddaraf ei gyhoeddi yn gynharach y mis hwn, fel yr oedd disgwyl.

Mae protestio mawr wedi bod yng Ngwlad Thai yn ystod y misoedd diwethaf, gydag ymgyrchwyr yn galw ar y llywodraeth i roi’r gorau i ohirio etholiadau o hyd.