Mae saith o filwyr yr Aifft a bron i 60 o wrthryfelwyr wedi marw yn dilyn brwydr ym Mhenrhyn Sinai yn ddiweddar.

Mewn datganiad, dywed byddin y wlad fod ei lluoedd wedi lladd o leiaf 59 o bobol sy’n cael eu hamau o fod yn wrthryfelwyr, ac wedi arestio 142 pellach.

Fe wnaeth cyrch awyr wedyn ddinistrio 56 o gerbydau a oedd yn cynnwys arfau yn yr Anialwch Gorllewinol, ac ardaloedd yn y de a gogledd-ddwyrain y ffin, meddai’r fyddin ymhellach.

Dydy’r datganiad ddim yn nodi pryd yn union ddigwyddodd y gweithgarwch hwn.

Fe lansiodd yr Aifft gyrch cenedlaethol y llynedd yn erbyn gwrthryfelwyr  o fewn y wlad.

Ers yn hir, mae’r awdurdodau wedi cael problemau gyda gwrthryfelwyr yn ardal Sinai, sy’n hafan ar gyfer eithafwyr Islamaidd.