Mae disgwyl i ddyn o’r Unol Daleithiau ymddangos gerbron llys yn Rwsia wedi’i gyhuddo o fod yn ysbïwr.

Fe gafodd Paul Whelan, cyn-aelod o fyddin ei wlad , ei arestio yn Mosgow ar ddiwedd mis Rhagfyr.

Mae gan y cyn-filwr hefyd ddinasyddiaeth Iwerddon, Canada a’r Deyrnas Unedig.

Bu dyfalu y gallai’r Americanwr gael ei gyfnewid am un o’r Rwsiaid sy’n cael eu cadw yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd, sy’n cynnwys Maria Butina, a gyfaddefodd ei fod yn ysbïwr ar ran Rwsia.

Fe all Paul Whelan wynebu hyd at ugain mlynedd o garchar os yw’n cael ei ganfod yn euog o ysbïo.