Daeth cadarnhad mai Felix Tshisekedi yw arlywydd newydd y Congo, wrth i Martin Fayulu, ei wrthwynebydd yn y ras, alw am brotest heddychlon yn erbyn y canlyniad.

Enillodd e 38% o’r bleidlais tra bod ei wrthwynebydd wedi ennill 34%.

Cafodd y canlyniad ei gadarnhau gan Lys Cyfansoddiadol y wlad yn dilyn cyhuddiadau o dwyll etholiadol.

“Congo sydd wedi ennill,” meddai’r arlywydd newydd yn dilyn ei fuddugoliaeth.

“Nid yw’n fuddugoliaeth i un ochr yn erbyn y llall. Rwy’n ymrwymo i’r ymgyrch i uno holl drigolion y Congo.

“Fydd y Congo yr ydym am ei hadeiladu ddim yn Congo ranedig, lawn casineb nac agweddau plwyfol.”

Mae ei gefnogwyr wedi bod yn dathlu ar strydoedd Kinshasa.

Gwrthwynebiad Martin Fayulu

Tra bod dathlu ar un llaw, mae Martin Fayulu yn dweud ar y llaw arall mai fe yw “unig arlywydd dilys” y Congo.

Mae’n galw am brotest yn erbyn “coup d’etat cyfansoddiadol” sy’n bygwth parhau’n argyfwng i’r wlad.

Mae ei gais i gyfri’r pleidleisiau eto wedi cael ei wrthod gan nad yw e wedi cyflwyno tystiolaeth i brofi ei honiadau – fod y canlyniad wedi cael ei drefnu, a bod oddeutu miliwn o bobol wedi cael eu hatal rhag pleidleisio o ganlyniad i Ebola.

Yn dilyn y canlyniad, mae honiadau newydd fod Joseph Kabila, yr arlywydd presennol, wedi cytuno i drefnu canlyniad y bleidlais.

Mae llywodraeth y Congo’n dweud bod yr honiadau’n “anghyfrifol”.

Bydd yr arlywydd newydd yn tyngu llw ddydd Mawrth (Ionawr 22).