Mae disgyblion ar orymdaith yn erbyn erthylu wedi cael eu beirniadu am sarhau Americaniaid brodorol ger cofeb Lincoln yn Washington.

Mae fideo sydd wedi ymddangos ar y we yn dangos disgyblion yn syllu ar ddyn 64 oed, Nathan Phillips, oedd yn canu ac yn taro drwm, a nifer o ddisgyblion eraill yn “bloeddio a chwerthin”.

Roedd brodorion yn cymryd rhan mewn gorymdaith yn y ddinas ddydd Gwener, tra bod gorymdaith arall yn erbyn erthylu yn cael ei chynnal ar yr un pryd.

Mae’r ysgol Gatholig wedi ymddiheuro am y digwyddiad, gan ddweud y byddan nhw’n cymryd “camau priodol” i gosbi’r disgyblion, “a allai gynnwys eu gwahardd”.

“Mae’r ymddygiad hwn yn groes i ddysgeidiaeth yr Eglwys ar urddas a pharch at fodau dynol,” meddai’r datganiad.

Nathan Phillips

Mae lle i gredu bod Nathan Phillips yn aelod blaenllaw o lwyth Omaha ac yn gyn-filwr Rhyfel Fietnam sy’n trefnu digwyddiadau i gofio am gyn-filwyr brodorol ym mynwent Arlington.

Roedd brodorion wedi bod yn cymryd rhan mewn gorymdaith pan glywson nhw’r disgyblion yn llafarganu sloganau megis ‘Make America Great Again’ a ‘Build that Wall’, ac yn dynwared dawns Haka y Maori.

Wrth ymateb i’r digwyddiad, dechreuodd Nathan Phillips a dyn arall ganu un o anthemau’r brodorion i guriad y drwm cyn i’r disgyblion gerdded i ffwrdd.

Wrth fynegi eu siom, mae nifer o wleidyddion yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at fywydau bob dydd y llwythi brodorol yn yr Unol Daleithiau, a’r gwrthwynebiad iddyn nhw o hyd.