Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn addo gwarchod ffoaduriaid sydd yn y wlad yn anghyfreithlon, yn gyfnewid am arian i godi ei wal ger y ffin â Mecsico.

Fe ddaw’r newyddion wrth iddo geisio dod ag anghydfod i ben sydd wedi gweld y llywodraeth yn dod i ben dros dro yn sgil ei ddymuniad i godi’r wal.

Mae hefyd yn addo gwarchod unrhyw un a aeth i’r Unol Daleithiau yn sgil rhyfel neu drychinebau naturiol yn eu gwledydd eu hunain.

Yn ôl Donald Trump, mae’r cynllun yn “synnwyr cyffredin” ac yn “gyfaddawd y dylai’r ddwy blaid ei gefnogi”.

Mae disgwyl i’r Senedd bleidleisio ar y cynllun yn ystod yr wythnos, ond mae’r Democratiaid eisoes yn dweud ei fod yn “annerbyniol”, gyda’r Llefarydd Nancy Pelosi yn dweud bod y cynllun yn gyfuniad o gynlluniau sydd eisoes wedi cael eu gwrthod.

Mae’r Democratiaid am weld y llywodraeth yn cael ei hagor cyn trafod y cynllun.