America
Mae dyn wedi llwyddo i oroesi ar ôl i’w gar gwympo 200 troedfedd oddi ar ffordd droellog yn ne Califfornia.

Mi syrthiodd ddau gar oddi ar glogwyn, ac yn ôl y dyn tân Mark Savage o Los Angeles roedd swyddogion wedi cael gwybod bod y dyn wnaeth oroesi wedi bod yn gaeth i’w gerbyd am hyd at chwe niwrnod.

Aelodau o’i deulu ddaeth o hyd i’r dyn ar ôl chwilio amdano ger safle’r ddamwain oddi ar Lake Hughes Road yng Nghoedwig Cenedlaethol Angeles ddoe.

Aethpwyd â’r dyn wedi ei anafu i’r ysbyty.

Digwyddodd y ddamwain rhyw filltir a hanner o ganolfan trin pobol sy’n gaeth i gyffuriau ag alcohol.