Mae cyn-blismon wedi cael ei garcharu am bron i saith mlynedd am saethu llanc croenddu’n farw yn 2014.

Cafodd Laquan McDonald, 17, ei ladd gan Jason Van Dyke yn 2014, ar ôl iddo ei saethu 16 o weithiau, a nifer o weithiau pan oedd e ar lawr.

Cafwyd e’n euog ym mis Hydref o lofruddio, ac o 16 achos o ymosod trwy drais – un am bob bwled.

Daw’r ddedfryd ar ôl i lys gael tri o blismyn eraill yn ddieuog o geisio celu gwybodaeth am y digwyddiad.

Aeth 13 mis heibio cyn i fideo o’r digwyddiad ddod i’r amlwg, ac fe gafodd protestiadau eu cynnal ar draws Chicago.

Mae lle i gredu mai Jason Van Dyke yw’r plismon cyntaf yn Chicago i’w gael yn euog o ladd rhywun o dras Affricanaidd drwy ei saethu.