Mae newyddiadurwr oedd yn ymchwilio i honiadau o lygredd a chamymddwyn ym myd pêl-droed Affrica, wedi cael ei saethu’n farw.

Fe gafodd Ahmed Husein ei ladd neithiwr (nos Fercher, Ionawr 17) ar ôl cael ei saethu gan ddau ddyn ar fotobeic.

Roedd ei waith ar gamymddwyn ymysg pobol gyfoethog ym myd pêl-droed Affrica, wedi dod â gyrfa un o aelodau sefydliad mwyaf pwerus Cyngor FIFA i ben.

Fel rhan o dîm o newyddiadurwyr cudd, o dan arweiniad Anas Aremeyaw Anas, sy’n adnabyddus yn Ghana, llwyddodd i gael Kwesi Nyantakyi wedi ei wahardd o’r byd pêl-droed.