Mae gweinyddiaeth arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, am lansio strategaeth newydd i wella system amddiffyn y wlad rhag taflegrau gwledydd eraill.

Y targed yw sicrhau bod bygythiadau gan Ogledd Corea ac Iran yn cael eu hamddiffyn, a gwneud yn siŵr eu bod ar yr un lefel a’r systemau sy’n cael eu datblygu gan Rwsia a Tsieina.

Mae disgwyl i’r manylion ynglŷn ag Adolygiad Gweinyddiaeth Amddiffynion y weinyddiaeth – sydd wedi cael ei lunio ers 2010 – gael ei ryddhau yn ystod ymweliad Donald Trump i’r Pentagon.

Yn ôl yr adolygiad, mae angen i’r Pentagon ehangu technolegau amddiffyn yn y gofod a defnyddio’r system i ganfod a dinistrio taflegrau yn gyflym.

Yn benodol, mae’r Unol Daleithiau yn edrych i roi haen o synwyryddion yn y gofod i ganfod taflegrau’r gelyn yn gyflym pan fyddant yn cael eu lansio.

Syniad Ronald Reagan

Cafodd syniad o’r fath ei gyflwyno gan yr arlywydd Gweriniaethol Ronald Reagan yn 1983, sef y Fenter Amddiffyn Strategol (SDI), er mwyn amddiffyn y wlad rhag bomiau niwclear.

Fe gafodd canolfannau ymchwil a thechnoleg eu sefydlu er mwyn creu’r system a gafodd ei henwi’n ‘Star Wars’.

Yna, cafodd y prosiect ei feirniadu am fod yn wastraff llwyr o arian, a datganwyd yn 1987 bod y technolegau oedd yn cael eu hystyried degawdau i ffwrdd o fod yn barod i’w defnyddio.