Mae dros 770 miliwn o gyfrifon ebost wedi cael eu darganfod mewn cronfa ddata sy’n cael ei ddefnyddio gan hacwyr ar-lein.

Yn ôl ymchwil gan arbenigwr ar ddiogelwch seibr, Troy Hunt, mae rhestr o 773 miliwn o ebyst unigryw a dros 21 miliwn o gyfrineiriau wedi cael eu rhannu ar “fforwm hacio poblogaidd”.

Mae’n dweud fod ei ddadansoddiad cychwynnol o’r data yn dangos bod y rhain wedi cael eu casglu o fwy na 2,000 o gronfeydd data oedd wedi cael eu hacio.

Dydi’r gronfa ddata ddim i weld yn cynnwys unrhyw wybodaeth sensitif fel gwybodaeth ariannol a manylion cardiau credyd.

Ond mae Tory Hunt yn rhybuddio y gallai’r rhestr gael ei defnyddio gan hacwyr er mwyn dwyn rhestrau ebyst a chyfrineiriau er mwyn ceisio gorfodi mynediad i gyfrifon personol.