Mae llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr yn America wedi gofyn i’r arlywydd ystyried gohirio ei araith flynyddol ar gyflwr yr Unol Daleithiau – a hynny oherwydd bod y llywodraeth wedi “cau i lawr” ers wythnosau.

Mae disgwyl i Donald Trump draddodi’i araith ar Ionawr 29, ond mae Nancy Pelosi wedi mynegi ei phryderon ynglyn â gallu’r llywodraeth wan i allu darparu digon o swyddogion diogelwch ar gyfer y digwyddiad. Mae ei gwrthwynebwyr yn dweud ei bod, yn hytrach, yn ceisio gwneud yn siŵr nad ydi Donald Trump yn cael sylw ar y cyfryngau.

“Gan fod y Secret Service a’r adran Ddiogelwch yn cael eu heffeithio gan y llywodraeth wedi’i chau i lawr, fe ddylai’r arlywydd siarad gyda’r Gynghres ar adeg arall, neu fe ddylai gyflwyno ei araith yn ysgrifenedig,” meddai Nancy Pelosi.

Dydi Donald Trump ddim wedi ymateb i’r sylwadau, a dydi’r Tŷ Gwyn, chwaith, ddim wedi cyhoeddi gair.

Yn gynharach ddoe, roedd y Tŷ wedi pasio mesur gan y Democratiaid i ail-agor y llywodraeth tan Chwefror 8 a gwneud $14bn ar gael ar gyfer gwariant argyfwng ar gyfer pobol wedi’u heffeithio gan gorwyntoedd, tanau a thrychinebau naturiol eraill.