Angela Merkel
Mae’r Almaen wedi pleidleisio o blaid ehangu pwerau’r gronfa i sefydlogi’r Ewro heddiw, gan adfer peth hyder yng ngallu Ewrop i ddelio â’r argyfwng ariannol.

Mae’r bleidlais hefyd wedi adfer hyder yng nghlymblaid Angela Merkel, sydd wedi bod yn brwydro i gadw cefnogaeth rhai aelodau gwrthryfelgar yn ddiweddar. Bydd y bleidlais hefyd yn cryfhau ei sefyllfa wrth drafod mesurau Ewropeaidd newydd i ddelio â’r argyfwng.

Dylai’r bleidlais heddiw helpu osgoi rhagor o stormydd ym marchnadoedd Ewrop am y tro, yn ôl Michael Kemmer, pennaeth Ffederasiwn Banciau’r Almaen.

“Mae cefnogaeth y Bundestag yn gam pwysig er mwyn sefydlogi gwledydd yr Ewro,” meddai.  “Trwy wneud hyn maen nhw wedi gosod cwrs sy’n arwain allan o argyfwng llawn dyled.”

Bydd yr €88 biliwn ychwanegol (£77 biliwn) yn rhagor o help wrth brynu bondiau’r llywodraeth a benthyg arian i fanciau a llywodraethau cyn iddyn nhw gyrraedd argyfwng, gan alluogi Ewrop i ymteb i stormydd posib yn y marchnadoedd cyn iddyn nhw ddigwydd.

Wedi’r bleidlais, roedd y marchnadoedd yn ymddangos yn fwy sefydlog heddiw wedi wythnosau o ansicrwydd yn arwain i fyny at benderfyniad yr Almaen. Mae gwerth yr Ewro hefyd wedi bod  ychydig yn uwch.

Er fod penderfyniad yr Almaen  yn bwysig iawn i sefyllfa’r Ewro  – a nhwythau’n cyfrannu mwy na’r un wlad arall yn Ewrop at Gronfa Sefydlogrwydd Ariannol Ewrop – mae’r amheuon yn parhau, wrth i fuddsoddwyr ddechrau derbyn y ffaith na fydd Groeg yn gallu talu ei dyledion.