Mae ymosodiad ym mhrifddinas Cenia wedi dod i ben ar ôl i swyddogion diogelwch ladd nifer o ddynion arfog.

Cafodd 14 o bobol eu lladd yn yr ymosodiad mewn gwesty a chanolfan siopa yn Nairobi, meddai’r Arlywydd Uhuru Kenyatta.

Does dim sôn ar hyn o bryd faint o ddynion arfog oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae Al-Shabab, mudiad eithafol sy’n gysylltiedig ag al-Qaida yn dweud mai nhw oedd yn gyfrifol, chwe blynedd ar ôl ymosodiad tebyg mewn canolfan siopa a laddodd 67 o bobol.

Mae o leiaf un person o wledydd Prydain ymhlith y meirw.

Yn ôl yr heddlu, fe ddechreuodd yr ymosodiad gyda ffrwydro tri char y tu allan i fanc, a hunanfomiwr yn ffrwydro bom yn y gwesty.

Mae’r awdurdodau’n apelio am waed i helpu’r rhai a gafodd eu hanafu.