Fe fydd rhaid gwahardd trafnidiaeth a ffatrïoedd sy’n defnyddio glo, olew a nwy o fewn y 40 mlynedd nesa’ er mwyn atal cynhesu bydeang trychinebus.

Dyna gasgliad gwyddonwyr mewn erthygl mewn cylchgrawn academaidd – fe fyddai’n rhaid rhoi’r gorau i geir, lorïau a hyd yn oed awyrennau sy’n llosgi olew a ffatrïoedd sy’n gollwng nwyon tŷ gwydr i’r amgylchedd.

Yn y cylchgrawn Nature Communications, mae’r gwyddonwyr yn dweud bod modd cyrraedd targed Cytundeb Paris o gadw cynhesu bydeang o dan 1.50C, ond bod angen gweithredu drastig i wneud hynny.

Yn ôl yr adroddiad fe fyddai gohirio’r gweithredu tan 2030 yn gostwng y posibilrwydd o reoli’r cynnydd i lai na 50%.

‘Dim newydd i losgi tanwydd ffosil’

Maen nhw’n dweud hefyd bod peryg pellach os bydd rhai digwyddiadau allweddol, fel toddi cynt na’r disgwyl yn rhew’r pegynau.

Mae arbenigwyr eraill wedi croesawu’r adroddiad. Yn ôl Dr Philip Williamson o Brifysgol East Anglia, roedd yr adroddiad yn dangos bod eisiau atal popeth newydd sy’n llosgi glo, olew neu nwy.

Hyd yma, does dim fersiynau masnachol o awyrennau sy’n hedfan heb danwydd ffosil.