Mae tri o bobol wedi cael eu harestio yng ngwlad Pwyl am alw am fwy o lofruddiaethau, yn dilyn marwolaeth maer Gdansk.

Cafodd y tri eu harestio ddoe (dydd Llun, Ionawr 15), wedi i Pawel Adamowicz gael ei drywanu ar lwyfan mewn digwyddiad elusennol.

Mae’r gwleidydd ceidwadol Joachim Brudzinski wedi disgrifio’r tri fel troliau’r rhyngrwyd, ac fel pobol “anghytbwys”.

Roedd llofruddiwr Pawel Adamowicz yn gyn-garcharor a drywanodd y maer dair gwaith yn ei galon cyn dweud wrth y dorf mai’r rheswm am hyn oedd er mwyn dial ar y Llwyfan Sifig – y bobol oedd yn gyfrifol am ei garcharu am ladradau banc.