Mae darn o gelf yn Israel sy’n cynnwys llun o glown y bwytai McDonald’s yn crogi ar groes, wedi codi gwrychyn Cristnogion Arabaidd y wlad.

Mae cannoedd o Gristnogion yn galw ar i’r gwaith, dan y teitl, McJesus, gael ei dynnu i lawr, ac maen nhw wedi bod yn gwrthdystio yn yr amgueddfa yn ninad Haifa.

Mae heddlu Israel yn dweud fod y protestwyr wedi tadlu bomiau tân at yr adeilad, ac wedi taflu cerrig sydd wedi anafu tri plismon.

Ymhlith eitemau eraill tn yr arddangosfa sydd wedi ennyn cwynion gan gynrychiolwyr yr eglwys Gristnogol, y mae fersiwn dol Barbie o Iesu Grist, ynghyd â’r Forwyn Fair ar ffurf dol blastig.

Mae gweinidog diwylliant Israel, Miri Regev, hefyd wedi galw am ddeddfwriaeth sy’n gorfodi artistiaid i fod yn “driw” i’r gwreiddiol, ac mae hefyd wedi galw ar i’r eitemau dadleuol gael eu tynnu i lawr.

Mae’r arddangosfa wedi gwrthod plygu i’r pwysau gan brotestwyr, gan ddweud y byddai hynny’n gyfystyr â sensro ac yn gorthrymu artistiaid a’u hawl i’w mynegu eu hunain.