Mae cwymp eira mawr wedi taro gwesty yn Ne’r Almaen gan achosi difrod i’r adeilad ond nid oes unrhyw un wedi’u hanafu.

Bu rhaid i’r 100 o westeion symud oddi yno i gartrefi eraill ym mhentref Balderschwang yn rhanbarth Oberallgaeu.

O ganlyniad mae tua 1,100 o bobol yn sownd yn y pentref ger ffin Awstria oherwydd risg uchel o gwymp eira arall ar y lonydd yn dilyn y dyddiau o eira mawr.

Mae’r awdurdodau mewn rhannau o Awstria, Yr Almaen a’r Swistir wedi rhybuddio bod mwy o eira a glaw yn cynyddu’r risg am ragor o afalansiau, ac yn rhoi pwysau ar doeau sydd wedi’u gorchuddio ag eira.

Dros y dyddiau diwethaf, mae dwsinau o bobol wedi marw mewn afalansiau neu ddamweiniau yn ymwneud a’r tywydd garw ar draws canolbarth Ewrop.