Mae tri sgïwr wedi marw, ac mae un arall ar goll, yn dilyn cwymp eira yng ngogledd yr Alpau yn Awstria.

Cafwyd hyd i gyrff tri dyn neithiwr (nos Sadwrn) ger Lech, ar ôl i wraig un ohonyn nhw roi gwybod i’r gwasanaethau brys eu bod nhw ar goll.

Roedden nhw’n 32, 36 a 57 oed.

Daeth y gwasanaethau brys o hyd iddyn nhw gan ddefnyddio technoleg ffôn.

Mae dyn 28 oed ar goll o hyd, ac fe fu’n rhaid dirwyn yr ymdrechion i ddod o hyd iddo yn Vorarlberg i ben yn sgil y tywydd.

Mae lle i gredu iddyn nhw geisio sgïo mewn ardal oedd ynghau.

Mae nifer o wasanaethau cyhoeddus yn yr Almaen ynghau yn sgil yr eira, ac mae oedi ar drenau rhwng Munich a Lindau.