Mae un o weinidogion llywodraeth Gwlad Groeg wedi ymddiswyddo yn sgil y penderfyniad i newid enw gwlad Macedonia.

Mae Panos Kammenos, y Gweinidog Amddiffyn yn y llywodraeth glymblaid, yn gwrthwynebu’r penderfyniad.

Daeth cadarnhad o’i ymddiswyddiad yn dilyn cyfarfod ag Alexis Tsipras, y prif weinidog, ac fe ddywedodd fod ei blaid yn gadael y llywodraeth glymblaid.

Mae’n bwriadu annerch y wasg yn ddiweddarach heddiw (dydd Sul, Ionawr 13).

Cefndir

Daeth Gwlad Groeg a Macedonia i gytundeb fis Mehefin y llynedd i newid enw’r wlad i ‘Gogledd Macedonia’.

Yn gyfnewid am wneud hynny, byddai Gwlad Groeg yn rhoi’r gorau i wrthwynebu aelodaeth Macedonia o Nato.

Cafodd y cytundeb sêl bendith llywodraeth Macedonia ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ac fe fydd angen mwyafrif ar y llywodraeth er mwyn bwrw ymlaen gyda’r newid.

Mae gan blaid Syriza 145 o gynrychiolwyr yn y senedd o 300 o aelodau, tra bod gan blaid y Groegiaid Annibynnol, plaid Panos Kammenos, saith aelod. Mae eu hangen ar y llywodraeth er mwyn sicrhau mwyafrif.

Mae hynny’n golygu bellach fod angen cefnogaeth y gwrthbleidiau ar y llywodraeth er mwyn sicrhau digon o bleidleisiau i gyflwyno’r newid.