Mae 21 o löwyr wedi marw ar ôl mynd yn sownd mewn pwll glo yng ngogledd Tsieina.

Cafodd 66 yn rhagor eu hachub yn Shenmu yn nhalaith Shaanxi, meddai llywodraeth leol.

Fe fu cwymp sylweddol yn nifer y bobol a fu farw o dan y fath amgylchiadau dros y degawd diwethaf yn Tsieina, ond mae’n parhau’n un o’r diwydiannau mwyaf peryglus ar draws y byd.