Mae pedwar o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn ffrwydrad nwy honedig mewn becws yn Paris, yn ôl yr adroddiadau diweddaraf.

Mae’r awdurdodau’n adrodd bod dau ddiffoddwr tân yn eu plith.

Ond mae erlynydd yn dweud mai dau, ac nid pedwar, sydd wedi marw.

Mae lle i gredu bod nwy yn gollwng cyn y ffrwydrad a’r tân, gan dorri ffenestri ac achosi i geir foelyd.

Roedd yr awdurdodau’n pwysleisio wrth i’r newyddion dorri na fu unrhyw un farw yn y digwyddiad ar Rue de Trevise yng ngogledd y ddinas.

Mae’r gwasanaethau brys wrthi’n tynnu pobol o’r adeilad.

Mae nifer sylweddol o swyddogion diogelwch yn yr ardal ar hyn o bryd o ganlyniad i brotestiadau gweithwyr yn ddiweddarach.