Angela Merkel
Mae disgwyl y bydd aelodau seneddol yn yr Almaen yn pleidleisio o blaid pecyn newydd i achub yr Ewro – er gwaetha’ amheuon o fewn plaid y Llywodraeth ei hun.

Yn ôl y Canghellor Anglea Merkel, mae cefnogaeth i’r cynllun yn hanfodol er mwyn achub arian yr Ewro ac mae’r bleidlais heddiw “o’r pwysigrwydd mwyaf”.

O dan y cynllun, fe fyddai’r Almaen yn gwarantu gwerth £184 biliwn o fenthyciadau i’r gronfa achub sydd wedi ei sefydlu i sefydlogi’r Ewro – mae hynny’n gynnydd o £77 biliwn ar yr addewid cynharach.

‘Dyfodol cyffredin’

Yr Almaen yw’r economi mwya’ yn ardal yr Ewro ac, yn ôl Angela Merkel, yr arian unedig yw “dyfodol cyffredin” yr 17 gwlad sy’n rhan ohono.

Er bod rhai o aelodau ei phlaid ei hun yn amheus o faint ymrwymiad yr Almaen, y disgwyl yw y bydd y bleidlais yn cael ei chario.

Fe fydd rhaid i’r gwledydd eraill hefyd gefnogi’r cynllun i gynyddu’r gronfa, wrth i’r pwysau gynyddu ar economi Gwlad Groeg a rhai gwledydd eraill hefyd, gan gynnwys Sbaen a’r Eidal.