Mae pedwar dyn wedi ymddangos gerbron llys yn yr Almaen ar amheuaeth o ddwyn ceiniog anferthol.

Mae’r ‘ceiniog Big Maple Leaf’ yn werth miliynau o ddoleri, a chafodd ei dwyn o amgueddfa yn Berlin ym mis Mawrth, 2017.

Hyd yma, mae awdurdodau wedi datgelu mai Dennis W, Wissam R, Ahmed R ac Wayci R, yw’r dynion sydd wedi’u cyhuddo, a bod pob un ohonyn nhw rhwng 20 a 24 blwydd oed.

Mae’r heddlu yn credu bod y geiniog aur 100kg wedi cael ei dwyn mewn berfa, a’i bod wedi cael ei thorri’n ddarnau mân i’w gwerthu.