Mae Iran wedi cadarnhau ei bod hi’n dal un o gyn-swyddogion llynges yr Unol Daleithiau yn garcharor – yr Americanwr cyntaf i gael ei garcharu gan y wlad yn ystod cyfnod Donald Trump yn arlywydd.

Dyw hi ddim yn glir pam y mae Michael R White wedi cael ei daflu i’r carchar, ond mae Iran wedi defnyddio tramorwyr yn y gorffennol i geisio sbarduno trafodaethau a thynnu sylw’r byd.

Ond mae’n benderfyniad sy’n mynd i ddwyshau ymhellach y tensiynau rhwng America ac Iran. Ers dod i’r Tŷ Gwyn, mae Donald Trump wedi cynnal ymgyrch ddigyfaddawd yn erbyn llywodraeth Tehran, gan dynnu allan o’r cytundeb niwclear hefyd.

Mae’r cyfryngau yn Iran yn cyhuddo Michael R White o fod ar delerau da iawn gyda llu parafilwrol yno.