Mae comisiwn etholiadol y Congo wedi cyhoeddi mai arweinydd yr wrthblaid, Felix Tshisekedi, sydd wedi ennill y ras i ddewis arlywydd newydd.

Doedd yna neb wedi disgwyl i’r gwleidydd ennill, ond mae wedi llwyddo i sicrhau dros saith miliwn o bleidleisiau, meddai’r awdurdodau.

Roedd rhai sylwebwyr wedi awgrymu y byddai llywodraeth yr arlywydd presennol, Joseph Kabila, yn taro bargen er mwyn dal gafael mewn grym.

Ond doedd eu hymgeisydd newydd, Emmanuel Ramazani Shadary, ddim ond wedi ennill pedair miliwn o fôts.