Mae ymosodwr wedi anafu 20 o blant y tu fewn i ysgol gynradd ym mhrifddinas Tsieina.

Mae tri o’r plant wedi’u hanafu’n ddifrifol, yn dilyn y digwyddiad am 11.17yb (amser Tsieina) fore Mawrth (Ionawr 8).

Mae’r dyn sy’n cael ei amau o ymosod wedi’i ddal ar y safle, ac mae ymchwiliad ar y gweill. Mae’r awdurdodau yn Beijing eto i gadarnhau pa fath o arf gafodd ei ddefnyddio yn y digwyddiad.

Mae gwefan yr ysgol yn nodi bod yno 2,537 o ddisgyblion, a 199 aelod o staff.