Mae llywydd Banc y Byd, Jim Yong Kim, wedi cyhoeddi y  bydd yn rhoi’r gorau i’r gwaith ddiwedd mis Ionawr.

Fe ddaw ei gyhoeddiad annisgwyl dair blynedd cyn y mae ei gyfnod yn y swydd yn dod i ben yn swyddogol.

Mae’r cyhoeddiad yn debygol o esgor ar frwydr rhwng America a gwledydd eraill sydd wedi cwyno am ddylanwad sydd gan yr Unol Daleithiau ar Fanc y Byd.

Mae 189 o genhedloedd yn rhan o’r Banc, a dyma’r ffynhonnell mwya’ yn y byd y gall gwledydd droi ati i ofyn am fentyciadau llog isel.

Mae Jim Yong Kim wedi bod yn llywydd Banc y Byd am dros chwe blynedd, a’i fwriad nesa’, meddai, yw mynd i weithio i gwmni sy’n canolbwyntio ar fuddsoddi mewn prosiectau i ail-adeiladu gwledydd tlota’r byd.

Mae Banc y Byd wedi cadarnhau mai Cristalina Georgieva, y prif weithredwr, fydd yn cymryd drosodd ar Chwefror 1, a hynny dros-dro.