Mae swyddogion yn y Congo yn dweud na fydd enw arlywydd newydd y wlad yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Roedd disgwyl i ganlyniad yr etholiad arlywyddol gael ei gyhoeddi heddiw (Ionawr 6), ar ôl i drigolion y wlad fwrw eu pleidlais ar Ragfyr 30.

Mae disgwyl i’r penderfyniad gynyddu’r gwrthdaro gwleidyddol yn y wlad.

Mae’r Eglwys Gatholig yn dweud bod enillydd amlwg wedi dod i’r fei, ac maen nhw’n galw ar y comisiwn etholiadol i gyhoeddi ei enw.

Ond yn sgil yr oedi, mae llywodraeth y wlad wedi atal mynediad i wefannau cymdeithasol rhag i enw’r enillydd gael ei grybwyll.