Mae manylion personol cannoedd o wleidyddion yn yr Almaen – gan gynnwys Angela Merkel – wedi eu cyhoeddi ar y We, gan danio ymchwiliad i’r mater.

Yn ôl adroddiadau, ymhlith y manylion sydd wedi cael eu rhyddhau mae yna rifau ffôn, cyfeiriadau, biliau a manylion cardiau credid.

Ac mae un platfform newyddion, y Deutsche Presse-Agentur, yn adrodd bod Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, wedi cael ei heffeithio.

Cafodd y wybodaeth ei uwch lwytho ar gyfrif Twitter sydd bellach wedi cael ei ddileu, ond a gafodd ei sefydlu dros flwyddyn yn ôl.

Roedd gan y cyfrif 17,000 o ddilynwyr, a chafodd y manylion eu rhyddhau dros gyfnod o amser, gyda’r deunydd diwethaf yn cael ei osod ar Twitter ar Ragfyr 28.

Mae pob un o brif bleidiau’r Almaen, gan eithrio plaid asgell dde eithafol Alternative für Deutschland, wedi cael eu heffeithio.