Llong ofod o Tsieina yw’r gyntaf erioed i lanio ar ochr bellaf y Lleuad – cam newydd yn hanes archwiliad dyn o’r gofod.

Fe laniodd Gweinyddiaeth Gofod Cenedlaethol Tsieina (CNSA) yr archwilydd robotig Chang’e 4 ar grater hynaf, dyfnaf a mwyaf y Lleuad – Pôl De-Aitken.

Mae’r ochr hon yn wynebu i ffwrdd oddi wrth  Ddaear ac yn cael ei adnabod fel yr “ochr dywyll”.

Yn y gorffennol mae mwy nag un llong ofod wedi llwyddo i dynnu lluniau o’r ochr yma, ond dyma’r tro cyntaf erioed i neb lanio yno.