Mae llong ofod ‘New Horizons’ NASA wedi goroesi ymchwiliad pellaf dyn o fyd arall gan lwyddo cyrraedd yr Ultima Thule.

Ddeg awr ar ôl dod ar ei draws bedwar biliwn o filltiroedd i ffwrdd, derbyniodd rheolwyr yng ngorsaf gofod Laurel, Maryland, bod y daith ddiweddaraf wedi ei chwblhau yn llwyddiannus.

Aeth y ‘New Horizons’ heibio i’r Ultima Thule dair blynedd a hanner ar ôl mynd heibio Plwto.

Yn ôl gwyddonwyr, mae hi’n mynd i gymryd bron i ddwy flynedd i’r llong ofod ddanfon ei arsylwad llawn o’r Ultima Thule, sydd biliwn o filltiroedd heibio i blaned Plwto.

Yn seiliedig ar luniau gafodd ei gymryd cannoedd o filltiroedd cyn ei gyrhaeddiad – mae’r Ultima Thule yn hir a thenau – yn mesur tua 22 milltir wrth naw milltir.

Mae’r graig rewllyd wedi llwyddo i’w gwarchod ei hun ers sefydlu ein system solar 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl.