Mae saith o bobol wedi cael eu lladd yn Bangladesh, wrth i drigolion y wlad bleidleisio mewn etholiadau cenedlaethol.

Mae Sheikh Hasina, prif weinidog y wlad, wedi cael ei chyhuddo gan rai o fod yn unben, gyda’r gwrthbleidiau’n cyhuddo ei chefnogwyr o ymosod arnyn nhw a’u haelodau. Mae hi’n mynd am drydydd tymor wrth y llyw.

Cafodd ei phrif wrthwynebydd, Khaleda Zia ei gwahardd rhag bod yn ymgeisydd gan ei bod hi yn y carchar am dwyll.

Fe fu’r ddwy yn wrthwynebwyr ffyrnig ers degawdau, ac mae’r etholiad wedi gweld miloedd o wrthwynebwyr Sheikh Hasina yn cael eu carcharu, gan gynnwys chwech ymgeisydd seneddol.

Mae o leiaf ddwsin o bobol wedi cael eu lladd mewn ymladd ffyrnig rhwng y ddwy ochr, ac mae degau o gyhuddiadau o fygwth pleidleiswyr ac o’u gorfodi i bleidleisio’n gyhoeddus yn hytrach nag yn gudd.

Mae Sheikh Hasina eisoes yn dweud ei bod hi’n hyderus o sicrhau buddugoliaeth ddydd Llun (Rhagfyr 31).