Fe wnaeth ffrwydrad mewn gorsaf ynni oleuo’r awyr yn las uwchben dinas Efrog Newydd neithiwr.

Er i’r ffrwydrad achosi tân yng ngorsaf Con Edison ym mwrdeistref Queens o’r ddinas, a thoriadau yn y cyflenwad trydan ym maes awyr La Guardia am gyfnod, chafodd neb eu hanafu.

Cafodd llawer o luniau o’r golau glas yn llenwi’r awyr uwchben adeiladau eiconig Manhattan eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd amryw yn dyfalu bod ymosodiad gan greaduriaid arall-fydol yn digwydd, hyd nes i lywodraethwr y dalaith, Andrew Cuomo, esbonio mai methiant trydanol oedd yn gyfrifol am y golau hynod.