Symlder, elusen a chariad yn hytrach na barusrwydd, glythineb a materoliaeth – dyna neges y Pab Ffransis yn ei anerchiad Nadolig blynyddol.

Roedd Iesu Grist wedi ymddangos i bobol oedd yn dlawd o ran eiddo daearol, meddai, wrth ddathlu Offeren ganol nos yn Rhufain.

“Wrth sefyll o flaen y preseb, rydyn ni’n deall nad cyfoeth materol yw bwyd bywyd ond cariad, nid glythineb ond elusen, nid gwneud sioe ond symlrwydd,” meddai.

“Mae barusrwydd diderfyn yn nodwedd o holl hanes y ddynoliaeth, hyd yn oed heddiw pan fo rhai, yn baradocsaidd, yn gwledda’n foethus a llawer gormod o bobol yn mynd heb y bara beunyddiol sydd ei angen i fyw.”

Tros y Nadolig yma, mae’r Pab wedi anfon un o’i brif gynghorwyr i ymweld â hen boblogaethau Cristnogol sydd dan bwysau, mewn gwledydd fell Irac ac Afghanistan.