Mae cyn-Brif Weinidog Pacistan, Nawaz Sharif, wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar yn dilyn cyhuddiad o lygredd.
Fe’i cafwyd yn ddieuog mewn ail achos.
Daw’r dyfarniad ar ôl i Nawaz Sharif gael ei ddiswyddo’r llynedd yn dilyn honiadau o lygredd.
Mae Nawaz Sharif wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le. Roedd wedi ei gyhuddo o fod ag asedau y tu hwnt i’r ffynonellau incwm yr oedd wedi rhoi gwybod amdanyn nhw.
Fe fydd Nawaz Sharif yn cael apelio yn erbyn y ddedfryd.
Cafodd ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar ym mis Gorffennaf am brynu fflatiau moethus yn Llundain. Fe apeliodd yn erbyn y ddedfryd a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ym mis Medi.