Mae dyn oedd wedi ffoi yn dilyn ymosodiad brawychol ar swyddfa cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo yn Paris wedi cael ei gyhuddo dair blynedd a hanner ar ôl iddo ffoi.

Mae Peter Cherif wedi’i amau o helpu i gynllwynio’r ymosodiad ym mis Mawrth 2015.

Cafodd ei arestio yn Djibouti, a’i ddychwelyd i Ffrainc i wynebu cyhuddiadau ar ôl mynd i’r ddalfa ym maes awyr Charles de Gaulle.

Mae wedi’i gyhuddo o fod â chysylltiad â menter frawychol, wrth i lywodraeth Ffrainc ddweud ei fod e wedi chwarae rhan bwysig yn yr ymosodiad.

Roedd Peter Cherif, sydd hefyd yn defnyddio’r enw Abu Hamza, yn ffrind agos i’r brodyr Said a Cherif Kouachi, y ddau a laddodd 11 o weithwyr Charlie Hebdo a phlismones.

Fe deithiodd i Syria ddechrau’r ganrif, ac fe wnaeth e ffoi rhag awdurdodau Ffrainc yn 2011.