Mae adroddiadau bod gyrrwr wedi’i ladd yn Perpignan wrth i Ffrancwyr barhau i brotestio ar draws y wlad yn erbyn yr Arlywydd Emmanuel Macron.
Mae ei farwolaeth yn golygu bod deg o bobol wedi marw ers i’r protestiadau ddechrau.
Yn ôl y wasg, fe fu farw’r dyn neithiwr (nos Wener, Rhagfyr 21) ar ôl i’w gar daro tryc.
Mae gyrwyr wedi dod â’r traffig i stop yn Paris hefyd, yn ogystal â rhannau o dde Ffrainc ger y ffin â Sbaen.
Mae protestwyr hefyd wedi bod yn blocio’r ffyrdd yn Saint-Etienne.