Mae miloedd o bobol yn protestio yn erbyn polisïau llywodraeth genedlaetholgar Hwngari yn Budapest.
Diwygiadau i ddeddfwriaeth llafur yw gwraidd eu hanfodlonrwydd, ond maen nhw hefyd yn protestio yn erbyn cyfyngiadau ar ryddid academaidd, llygredd a materion eraill.
Cafodd gorymdaith ei chynnal drwy’r brifddinas neithiwr (nos Wener, Rhagfyr 21), wrth i areithiau gael eu traddodi yn erbyn y prif weinidog Viktor Orban, ac roedd y dorf yn canu caneuon protest ac yn arddangos arwyddion yn beirniadu’r llywodraeth.
Aeth y protestwyr ar orymdaith i swyddfeydd yr Arlywydd Janos Ader i brotestio yn erbyn ei benderfyniadau i roi grym i’r llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth newydd.
Ymhlith y deddfau sydd wedi’u cyflwyno yw honno sy’n rhoi’r hawl i gyflogwyr ofyn am 400 o or-oriau y flwyddyn gan weithwyr.
Yn ôl y ddeddfwriaeth, does dim angen i gyflogwyr dalu’r arian am oriau ychwanegol am hyd at dair blynedd.