Mae Ysgrifennydd Amddiffyn America, Jim Mattis, wedi ymddiswyddo ar ôl ffraeo gyda’r Arlywydd Donald Trump ynghylch tynnu milwyr America o Syria, ac anghytuno parhaus ynghylch swyddogaeth America yn y byd.

Fe fydd Jim Mattis yn gadael ddiwedd mis Chwefror ar ôl dwy flynedd dymhestlog o geisio cymedroli polisïau didostur ac anwadal yr arlywydd.

Mae’n cael ei ystyried gan lawer fel y swyddog polisi tramor uchaf ei barch yng ngweinyddiaeth Donald Trump.

Mewn llythyr at yr arlywydd, dywedodd Jim Mattis ei fod yn gadael oherwydd “mae gennych hawl i gael ysgrifennydd amddiffyn y mae ei safbwyntiau’n fwy cydnaws â’ch rhai chi”.

Mae seneddwyr o ddwy ochr y Tŷ wedi gresynu at yr ymddiswyddiad, gan gynnwys cefnogwyr Donald Trump a oedd yn credu ei fod yn ddylanwad da ar yr Arlywydd.