Mae disgwyl i Harvey Weinstein ymddangos gerbron llys yn Efrog Newydd heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 20) – lle y gallai’r achos yn ei erbyn gael ei ddiddymu.

Roedd yn un o ddynion mwyaf pwerus y diwydiant ffilm yn Hollywood yn 2017, pan wnaeth menywod – yn cynnwys actorion blaenllaw – gyhuddiadau yn ei erbyn, yn honni iddo ymosod yn rhywiol arnyn nhw.

Yn dilyn hyn y sefydlwyd y mudiad #MeToo i sbarduno trafodaeth ac ymwybyddiaeth gyhoeddus a arweiniodd at gyhuddiadau o’r un natur yn erbyn dynion enwog eraill.

Mae Harvey Weinstein wedi’i gyhuddo o dreisio merch mewn gwesty ym mis Mawrth 2013 ac yna yn ei fflat yn Manhattan yn 2006.

Mae Harvey Weinstein yn gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.

Heddiw mewn llys yn Efrog Newydd, fe allai’r barnwr ddiddymu’r holl gyhuddiadau.

Mae cyfreithwyr yn dadlau bod y cyhuddiadau wedi deillio o ymchwiliad heddlu “diegwyddor” a bod ditectif wedi pwyso ar un tyst i roi tystiolaeth sy’n cefnogi un o’r cyhuddiadau.

Bydd yr achos yn dechrau am 9.30y.b (amser lleol) heddiw.