Mae o leiaf 600 o dai pren wedi cael eu dinistrio mewn tân yn Brasil.

Yn ôl yr awdurdodau, mae pedwar o bobol wedi cael eu hanafu o ganlyniad i’r digwyddiad mewn ardal dlawd yn ninas Manaus.

Does dim adroddiadau am farwolaethau.

Dywed llefarydd ar ran yr heddlu fod lle i gredu bod y tân wedi cychwyn ar ôl i ffwrn ffrwydro.