Mae bom wedi ffrwydro tu allan i orsaf cwmni teledu preifat yng Ngwlad Groeg, gan achosi difrod ond dim anafiadau.

Yn ôl heddlu’r wlad fe ddigwyddodd y ffrwydrad tua 2:32 bore heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 17) y tu allan i brif swyddfa’r cwmni ger Athen. Roedd gweithwyr wedi llwyddo i adael yr adeilad ar ôl cael rhybudd am y bom mewn galwad ffôn.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb uniongyrchol eto er bod sefydliadau adain chwith ac anarchaidd wedi ymosod ar orsafoedd newyddion yn y gorffennol.

Mae’r ffrwydrad wedi chwalu’r ffenestri ac wedi difrodi rhan o’r adeilad. Roedd adeiladau a fflatiau ger llaw wedi cael eu heffeithio hefyd.

“Roedd hwn yn ymosodiad yn erbyn Democratiaeth. Diolchaf mai dim ond difrod i’r adeilad sydd wedi dod ohono – mae’n rhyddhad nad oedd neb wedi cael eu hanafu” meddai’r Gweinidog, Olga Gerovasili.