Mae cwmni Richard Branson, Virgin Galactic, wedi lansio roced i dwristiaid fydd yn ceisio cyrraedd y gofod heddiw (Dydd Iau, Rhagfyr 13).

Fe adawodd SpaceShipTwo, VSS Unity, y ddaear wrth i’r haul godi bore heddiw yng nghanolfan prawf Mojave yn California.

Cyrhaeddodd y roced  271,000 troedfedd ar ôl gadael y llong gario ar 43,000 troedfedd.

Roedd disgwyl i’r daith gymryd 90 munud i’r peilot Mark Stucky ac astronot NASA, Frederick Sturcko.

“Dwi ddim i fod i ddweud hyn, ond rwy’n gobeithio fod y roced am fynd i’r gofod heddiw,” meddai Richard Branson cyn y lansiad.

“Gobeithio y gwelwn ychydig o hud yn ystod yr oriau nesaf.”

Erbyn hyn mae’r roced wedi glanio yn ôl ar y ddaear yn saff.