Mae tân ym mhrifddinas y Congo wedi dinistrio bron i 80% o beiriannau pleidleisio’r ddinas, ddeg diwrnod yn unig cyn cynnal yr etholiad i ddewis arlywydd y wlad.

Mae swyddogion yn dweud ei bod hi’n ymddangos fel tasa’r tân wedi’i gynnau’n fwriadol, ond mae’n nhw’n mynnu na chaiff atal cyfle’r bobol i fwrw pleidlais.

Mae’r gwrthbleidiau wedi bod yn poeni am y defnydd o’r peiriannau pleidleisio am y tro cyntaf erioed yn y balot a fydd yn cael ei chynnal ar Ragfyr 23. Mae diplomyddion ac arbenigwyr hefyd wedi codi bwganod ynglyn â’r modd y gallai rhai pobol ddefnyddio’r peiriannau er eu lles eu hunain.

Mae’r arlywydd presennol, Joseph Kabila, yn ildio’r awenau, ar ôl bod mewn grym ers 2001.

Mae’r comisiwn etholiadol yn dweud fod y tân wedi cynnau mewn storfa yn Kinshasa, ac yn dweud ei bod hi’n rhy gynnar i allu dweud beth oedd yr achos na faint o ddifrod sydd wedi’i achosi.