Rhyfel Cartref Yemen fydd testun y trafod yn Stockholm heddiw (Rhagfyr 13) lle bydd gwleidyddion o bob cwr o’r byd yn ymgynnull ar gyfer trafodaethau hedwch.

Y Cenhedloedd Unedig sy’n arwain y trafodaethau, ac mae disgwyl i Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, Jeremy Hunt, gymryd rhan.

Ers 2015 mae lluoedd Llywodraeth Yemen wedi bod yn brwydro yn erbyn gwrthryfelwyr sydd â chefnogaeth Iran, ac mae miloedd o bobol wedi’u lladd.

Yn ystod y digwyddiad ym mhrifddinas Sweden bydd y ddwy ochr yn cyfnewid carcharorion.

“Trychineb”

“Sefyllfa Yemen yw’r trychineb gwaethaf o’i fath yn y byd,” meddai Jeremy Hunt. “A’r trafodaethau yma yw’r cyfle gorau ers blynyddoedd i gymryd camau ymlaen tros bobol Yemen.

“Dw i’n canmol y Cennad Arbennig y Cenhedloedd Unedig am lwyddo a dod a’r ddwy ochr at ei gilydd am y tro cyntaf ers 2016.”