Mae cyn-gyfreithiwr arlywydd yr Unol Daleithiau wedi’i ddedfrydu i dair blynedd o garchar.

Yn ôl barnwr yn Efrog Newydd, mae Michael Cohen yn haeddu cosb lem am droseddau yn ymwneud ag osgoi talu trethi, dweud celwydd wrth y Gynghres, ac am drefnu taliadau anghyfreithlon er mwyn cadw merched yn dawel.

Mae Michael Cohen yn dweud fod ei “deyrngarwch dall” i Donald Trump wedi gwneud iddo deimlo bod angen iddo “guddio gweithredoedd aflan” yr arlywydd o olwg y byd.

Mae Donald Trump wedi galw am ddedfryd drom i Michael Cohen, gan ei alw’n gelwyddgi.

Mae disgwyl i Michael Cohen ei gyflwyno ei hun i’r awdurdodau ar Fawrth 6 y flwyddyn nesaf, i ddechrau ar ei gyfnod dan glo.