Mae tsar economi Tsieina ac Ysgrifennydd y Trysorlys America wedi cytuno y bydd trafodaethau’n cael eu cynnal ar sut i ddod â’r rhyfel masnach rhwng y ddwy wlad i ben.

Mae Liu He a Steven Mnuchin wedi cadarnhau eu bod eisoes wedi cynnal sgyrsiau dros y ffôn ynglyn â sut i symud ymlaen i drafod yr economi.

Hefyd ar yr agenda y mae arestiad un o brif swyddogion cwmni ffonau symudol Huawei. Mae Tsieina wedi rhybuddio y bydd “canlyniadau difrifol” os nad yw hi’n cael ei rhyddhau’n fuan.

Fe gafodd ei dwyn i’r ddalfa yn Canada ar gyhuddiadau yr Unol Daleithiau o dorri sancsiynau masnach yn Iran.